Rydym yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad ar y wefan hon.
Gallwch dderbyn ein polisi cwcis neu addasu’ch dewisiadau.
Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Maes Polisi:
Hyrwyddo, amddiffyn a gwella iechyd a llesiant pawb yng Nghymru, ac arwain yr ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd. Sicrhau bod gwasanaethau gymdeithasol o ansawdd dda ar gael ac yn cydlynu’n well â gofal iechyd a gwasanaethau eraill.
Mae'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi yn rhoi gwybod i'r cyhoedd yng Nghymru am y sawl ffordd o gael gafael ar y gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
O fferyllwyr i unedau mân anafiadau ac o linellau cymorth iechyd meddwl i ymgyngoriadau ar-lein, mae sawl ffordd o gael mynediad at wasanaethau'r GIG yng Nghymru.
Wrth i'r pwysau barhau i gynyddu ar wasanaethau'r GIG yng Nghymru, mae'n bwysig bod y cyhoedd yn cydnabod ac yn deall y rhan y gallant ei chwarae i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae'r ffolder hon yn cynnwys hysbysebion teledu a fersiynau byrrach ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol sy'n ymwneud â'r ymgyrch Chi sy’n Dechrau’r Daith at fod yn Iach.
Asedau ynglŷn â chael mynediad at wasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Asedau ynghylch pryd a sut i gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu yng Nghymru.
Asedau i roi gwybod i'r cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael gan eu hoptometrydd lleol ar gyfer canfod ystod o broblemau llygaid a'u hatal.
Asedau sy'n tynnu sylw at y cyfoeth o wasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol yng Nghymru. O'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, i frechiadau a mwy.
Asedau sy'n hyrwyddo ymddygiadau iechyd cadarnhaol, yn atal dirywiad mewn iechyd ac yn helpu pobl i baratoi at driniaethau, gyda phwyslais ar bwysigrwydd mynychu apwyntiadau a chadw'n iach (hynny yw, cadw'n iach wrth aros am driniaeth).
Nod yr ymgyrch hon yw rhoi gwybod i bobl am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt o ran cymorth. Mae hefyd yn rhoi gwybod i bobl sut i gysylltu â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl yn eu hardal i drafod eu hiechyd meddwl, neu os ydynt yn bryderus am aelod o'r teulu.
Asedau cyfryngau cymdeithasol i helpu i gyfeirio pobl at wasanaethau yng Nghymru a all helpu i gynorthwyo eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gan gynnwys Llinell Gymorth CALL a 111 Pwyso 2, yn ogystal â hyrwyddo hunanofal.
Asedau i’w defnyddio yn ystod wythnos y glas sy’n rhoi negeseuon iechyd i fyfyrwyr newydd. Mae’r rhain yn cynnwys annog myfyrwyr i gofrestru â meddyg teulu lleol, sut y gall fferyllwyr helpu os ydych chi’n teimlo’n sâl yn ogystal ag annog myfyrwyr i fanteisio ar frechiadau y maen nhw’n gymwys i’w cael.
Ymgyrch i annog pobl i rhannu eu pryderon os ydydnt yn poeni bod plentyn neu person ifanc yn cael eu cam-drin.
Adnoddau i helpu pobl i wella eu lles meddyliol a chorfforol a chadw eu hunain a’u teuluoedd yn iach trwy weithgareddau hunanofal.
Mae y ffolder yma yn cynnwys asedau cyfryngau cymdeithasol i gefnogi'r rheoliadau trwyddedu triniaethau arbennig newydd a ddaeth i rym ar 29 Tachwedd 2024.
Mae angen trwyddedu ar gyfer pedair triniaeth arbennig: aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio.
Posteri ac asedau cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio gan awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru.